GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 14 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amh. 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh.

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 24

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Ddim yn ofynnol 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh. 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd yw'r fframwaith ar gyfer mesurau'r farchnad y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ("PAC"), gan ddarparu'r fframwaith ar gyfer cynlluniau cymorth y farchnad sydd wedi'u sefydlu yn y gwahanol sectorau amaethyddol. Sefydlwyd y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd fel modd o gyflawni amcanion y PAC ac yn arbennig i sefydlogi marchnadoedd, sicrhau safon deg o fyw ar gyfer cynhyrchwyr amaethyddol a chynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Dros amser, mae wedi ymestyn i ddarparu pecyn cymorth sy'n galluogi'r UE i reoli anwadalrwydd y farchnad, cymell cydweithrediad rhwng cynhyrchwyr amaethyddol a'u cystadleurwydd, a hwyluso masnach.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn mynd i'r afael â materion gweithredadwyedd sy'n cael eu creu gan ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r UE mewn perthynas â meysydd polisi a gedwir yn ôl yn y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd, a hynny er mwyn sicrhau y gall y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd barhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i amrywiol ddeddfwriaeth bresennol yr UE sy'n ffurfio rhan o gyfraith y DU yn ymwneud â'r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd, ac yn darparu datrysiadau o ran gweithredadwyedd yn y meysydd polisi a ganlyn:

  • cydnabod sefydliadau cynhyrchwyr,
  • contractau ysgrifenedig yn y sector llaeth,
  • rheolau apêl sy'n ymwneud â diogelu dangosyddion daearyddol,
  • hwyluso a rheoleiddio'r broses o fewnforio cigoedd penodol,
  • gwinoedd a bwydydd eraill, a
  • rhoi ad-daliadau allforio ar gyfer nwyddau amaethyddol sydd wedi'u prosesu.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 1 Mawrth 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y canlynol yn ei datganiad: ysgrifenedig:

·         "Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gallai Bil Cynulliad yn y dyfodol sy’n ceisio gwaredu neu addasu'r swyddogaethau hyn sbarduno gofyniad i ymgynghori â Llywodraeth y DU.  [ychwanegwyd pwyslais]

·         (Swyddogaethau a drosglwyddir i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd) Mae paragraff 10 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn berthnasol fan hyn. Mae hwn yn darparu na all darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad ddileu nac addasu, neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu addasu, unrhyw swyddogaeth awdurdod cyhoeddus ac eithrio awdurdod datganoledig Cymreig, oni fydd y Gweinidog (y DU) priodol yn cydsynio i’r ddarpariaeth. Byddai angen cydsyniad gan Weinidog perthnasol y Goron ar gyfer Bil Cynulliad yn y dyfodol sy'n ceisio gwaredu neu addasu'r swyddogaethau hyn. [ychwanegwyd pwyslais]"

  1. Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn datgan bod yn rhaid i'r datganiad ysgrifenedig “nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru”. Barn y Cynghorwyr Cyfreithiol yw bod y brawddegau yn natganiad Llywodraeth Cymru y tynnir sylw atynt uchod yn 'awgrymu' yn hytrach na 'nodi'.
  2. Mae Llywodraeth Cymru, yn ei datganiad ysgrifenedig, wedi nodi y bu anghytuno â Llywodraeth y DU ynghylch a yw cynlluniau yn ymwneud â'r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn faterion datganoledig neu'n faterion a gedwir yn ôl.
  3. Gan fod Llywodraeth y DU o'r farn mai materion a gedwir yn ôl yw'r rhain, nid yw'n credu eu bod yn ddarostyngedig i delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol, ac felly nid yw wedi ceisio cydsyniad gan Weinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai materion datganoledig yw'r rhain.
  4. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am eglurhad o safbwynt cyfreithiol Llywodraeth y DU, ond nid yw wedi cael unrhyw ymateb.
  5. Er gwaethaf yr anghytuno ynghylch a yw'r materion dan sylw wedi'u datganoli neu'n faterion a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn fodlon bod effaith y Rheoliadau hyn yn cyflawni amcanion polisi cyffredinol Gweinidogion Cymru o ran diogelu a chynnal gweithrediad effeithiol marchnadoedd amaethyddol yn y DU.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at baragraffau 3, 4 a 5 yn y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.